Social enterprises lead the way in clothing export

THE LAUNCH of the first social enterprise led clothing export centre in Wales is set to give the economy a boost.

Draig Tex will open in Mochdre in May. The new venture, which has been developed by a consortium of three North Wales social enterprises, has already created seven jobs.

Crest Co-operative, Seren Ffestiniog Cyf and Antur Waunfawr have teamed up to open Draig Tex. The three community organisations currently collect unwanted clothing from members of the public and reuse good quality textiles in their shops. At present the social enterprises work with UK companies, outside of Wales, who export and reuse clothing that cannot be resold.

The aim of Draig Tex is to keep the value of textiles and unwanted clothing in Wales, to benefit Welsh communities.

Preparations have already started at the Quinton Hazel Business Parc in Mochdre and Draig Tex is working with charities and organisations to collect reclaimed textiles ready for export.

Managers, textile sorters and a driver and textile baler, will be in place in the coming weeks and exporting will begin in April. Clothing will be exported to Africa, Pakistan and Eastern Europe. Exported reclaimed clothing will be reused by families in African communities. In Pakistan the material from clothing will be reused to make new clothes.

Edwina Hart, Minister for Economy, Science and Transport, will officially open Draig Tex in May.
Profits from the export of clothing will be put back into the three social enterprises and be used to carry out their community work in North Wales.

Draig Tex will be led by three female leaders, who have built sustainable social enterprises.
Sharon Jones, Chief Executive of Crest Co-operative, Linda Ann Wyn Jones, Chief Executive of Seren Ffestiniog Cyf and Menna Jones, Chief Executive of Antur Waunfawr.

Sharon Jones, who has led successful social enterprise Crest Co-operative for 15 years, said: “This is unique and exciting for all organisations involved. We hope that the launch of Draig Tex will encourage charities and textile collection companies to use the export services of a third sector organisation.”

Linda Ann Wyn Jones, who has 18 years’ experience in the industry, said: “This has been an opportunity for three organisations who share the same vision to come together. The project has already created seven jobs and we hope that it will further develop our communities in Wales and overseas.”

Menna Jones, Chief Executive of Antur Waunfawr, said: “This is the first community textile reuse centre to be established in Wales, and we hope that it will generate plenty of interest and gain the support and backing of other local organisations. The reuse of clothes creates jobs, boosts the local economy and reduces landfill, so this project is both timely and prudent.”

Draig Tex funding companies

Mentrau cymdeithasol yn arwain y ffordd mewn allforio dillad

Mae lansiad y ganolfan allforio dillad gyntaf yng Nghymru, sy’n cael ei arwain gan fentrau cymdeithasol, yn barod i roi hwb i’r economi.

Bydd Draig Tex yn agor ym Mochdre, Gogledd Cymru ym mis Mai. Mae’r fenter newydd, sydd wedi cael ei ddatblygu gan gonsortiwm o dair menter gymdeithasol Gogledd Cymru , eisoes wedi creu saith swydd.

Mae Crest Co-operative , Seren Ffestiniog Cyf ac Antur Waunfawr i gyd wedi ymuno er mwyn agor Draig Tex. Ar hyn o bryd, mae’r tri sefydliad yn casglu dillad diangen gan y cyhoedd ac yn ailddefnyddio tecstilau o ansawdd da yn eu siopau. Maent hefyd yn gweithio gyda chwmnïau yn y DU, tu allan i Gymru, sy’n allforio ac yn ailddefnyddio dillad na ellir eu hailwerthu.

Nod Draig Tex yw cadw gwerth tecstilau a dillad diangen yng Nghymru, er budd cymunedau Cymreig. Mae paratoadau wedi dechrau eisoes ym Mharc Busnes Quinton Hazel ym Mochdre, ac mae Draig Tex yn gweithio gydag elusennau a sefydliadau i gasglu tecstilau a adferwyd yn barod ar gyfer allforio.

Bydd rheolwyr, didolwyr tecstilau, gyrrwr a byrnwr tecstilau yn eu lle yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd allforio yn dechrau ym mis Ebrill. Bydd dillad yn cael ei allforio i Affrica, Pacistan ac Dwyrain Ewrop. Bydd dillad adferedig allfudo yn cael eu hailddefnyddio gan deuluoedd mewn cymunedau yn Affrica. Ym Mhacistan ac India, bydd y deunydd o’r dillad yn cael ei ailddefnyddio i greu dillad newydd.

Bydd Edwina Hart, y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, yn agor Draig Tex yn swyddogol ym mis Mai.

Bydd yr elw o allforio’r dillad yn cael ei buddsoddi’n ôl yn y tair menter a chael ei ddefnyddio i barhau gwneud eu gwaith cymunedol yng Ngogledd Cymru.

Bydd Draig Tex yn cael ei arwain gan dri arweinydd benywaidd, sydd wedi adeiladu mentrau cymdeithasol cynaliadwy: Sharon Jones , Prif Weithredwraig Crest Co-operative , Linda Ann Wyn Jones , Prif Weithredwraig Seren Ffestiniog Cyf a Menna Jones , Prif Weithredwraig Antur Waunfawr.

Dywedodd Sharon Jones, sydd wedi arwain menter gymdeithasol Crest Co-operative yn llwyddiannus am 15 mlynedd: “Mae hyn yn unigryw a chyffrous ar gyfer yr holl sefydliadau dan sylw. Rydym yn gobeithio y bydd lansiad Draig Tex yn annog elusennau a chwmnïau casglu tecstilau i ddefnyddio gwasanaethau allforio o sefydliad trydydd sector.”

Dywedodd Linda Ann Wyn Jones, sydd â 18 mlynedd o brofiad yn y diwydiant: “Mae hwn wedi bod yn gyfle i dri sefydliad sy’n rhannu’r un weledigaeth ddod at ei gilydd. Mae’r prosiect eisoes wedi creu saith swydd ac rydym yn gobeithio y bydd yn datblygu ein cymunedau yng Nghymru a thramor ymhellach.”

Meddai Menna Jones, Prif Weithredwraig Antur Waunfawr: “Hwn yw’r ganolfan ailddefnyddio tecstilau cymunedol gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru, ac rydym yn gobeithio y bydd yn cynhyrchu digon o ddiddordeb, ac yn ennill cymorth a chefnogaeth gan sefydliadau lleol eraill. Mae ailddefnyddio dillad yn creu swyddi, yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn lleihau tirlenwi, felly mae hwn yn brosiect amserol a doeth.”

Draig Tex funding companies